Skip to main content

This job has expired

Director of Planning, Decarbonisation and Engagement

Employer
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Location
Llanion, Pembroke Dock, Wales / Hybrid Working
Salary
Salary: £60,930 - £65,280 (Pay Award Pending)
Closing date
18 Jul 2022

Director of Planning, Decarbonisation and Engagement

Location: Llanion, Pembroke Dock, Wales / Hybrid Working

Salary: £60,930 - £65,280 (Pay Award Pending)

A National Park where biodiversity, culture and communities thrive.

The Pembrokeshire Coast isn’t what you might usually expect from a National Park. As well as being the only one that exists mainly due to its coastline, it’s also split into four parts, each one with its own quirks and qualities. While the coastline may be the headline act, it’s backed by a stellar supporting cast and although nowhere in the National Park is more than ten miles from the sea, the quality coastline is backed by spectacular scenery and diverse wildlife including internationally important nature reserves, geology and archaeology that allow you to discover something different. This unique place is home to over 22,000 people alongside the thousands who enjoy it each year as visitors. But it is also a fragile place, and we play a crucial role in balancing the needs of recreation and conservation to ensure that human activity is carried out in a way that is in harmony with the environment and the local community.

This new role – our Director of Planning, Decarbonisation and Engagement – is central to the way we deliver our vision. The role will have a strong focus on people and places: ensuring that local communities enjoy a proper standard of living and are actively engaged in the work of the Authority, working with partners and stakeholders across Pembrokeshire, and Wales, and through our international links, abroad as well. The successful candidate will be expected to generate, and to contribute towards, corporate policies and programmes within the Authority, and within a wider Welsh context. Crucially, you will provide the leadership for the delivery of the Authority’s statutory planning function as well as contributing to the Climate Change agenda, engaging with local communities, utilising the National Park to improve health and well-being and ensuring that people from all backgrounds are able to enjoy the National Park. You will be expected to travel, to act as advocate for our vision, and enhance our image and perception through your work, and your presence.

To be successful, you will need a solid track record, underpinned with relevant qualification, of leadership in the delivery of planning and place-related functions such as planning, economic development, local authority, land or visitor attraction management or tourism. What matters as much as your background is what you will bring. You will need to be an inspirational leader able to work effectively in partnership with local communities and stakeholders. Politically astute, you should also be able to navigate complex policy areas and have a strong belief in the value of local democracy and accountability. You will share our passion and commitment to delivering for our communities and protecting future generations and demonstrate a track record as a capable strategic leader within a comparably complex organisation.

If you want to help shape one of our country’s key natural resources for decades in the future, please do get in touch.

Applications are welcomed and accommodated for in either Welsh or English. An application submitted in Welsh will not be treated less favorably than an application submitted in English.

To find out more, please contact our recruitment advisers at GatenbySanderson:

E: julie.myers@gatenbysanderson.com T: +44 (0) 7595 779915

Olivia Robinson, Senior Researcher E:olivia.robinson@gatenbysanderson.com T: +44 (0) 7964 826 291

To apply and for further information, please click Apply.

The closing date for applications is Monday 18th July at 17:00hrs.

We are committed to equality of opportunity for all staff and applications from individuals are encouraged regardless of age, disability, sex, gender reassignment, sexual orientation, pregnancy and maternity, race, religion or belief and marriage and civil partnerships.

We pledge to improve the diversity of our workforce and therefore guarantee an interview to disabled candidates, who meet the essential job criteria and opt to apply via our Disability Confident Employers Scheme.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Cyfarwyddwr Cynllunio, Datgarboneiddio ac Ymgysylltu

Lleoliad: Llanion, Doc Penfro, Cymru / Gweithio Hybrid

Cyflog: £60,930 - £65,280 (Dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)

Parc Cenedlaethol lle mae bioamrywiaeth, diwylliant a chymunedau yn ffynnu.

Nid yw Arfordir Sir Benfro yr hyn y byddech yn ei ddisgwyl fel arfer gan Barc Cenedlaethol. Yn ogystal â bod yr unig Barc sy’n bodoli yn bennaf oherwydd ei arfordir, mae hefyd wedi’i rannu’n bedair rhan, pob un â’i hynodrwydd a’i rinweddau ei hun. Er mai’r arfordir o bosibl sy’n denu’r penawdau, yn gefnlen i’r glannau mae mewndir yr un mor rhyfeddol, ac er nad oes unman yn y Parc Cenedlaethol yn fwy na deng milltir o’r môr, mae golygfeydd godidog a bywyd gwyllt amrywiol yma gan gynnwys gwarchodfeydd natur o bwysigrwydd rhyngwladol, daeareg, ac archaeoleg sy'n gyfle i ddarganfod rhywbeth gwahanol. Mae’r lle unigryw hwn yn gartref i dros 22,000 o bobl yn ogystal â’r miloedd sy’n mwynhau’r lle bob blwyddyn fel ymwelwyr. Ond hefyd mae’r Parc yn lle bregus, a’n rhan hanfodol bwysig ni yw cadw’r ddysgl yn wastad rhwng anghenion hamdden a chadwraeth i sicrhau bod gweithgaredd dyn yn cael ei gyflawni mewn modd sydd mewn cytgord â’r amgylchedd a’r gymuned leol.

Mae’r rôl newydd hon – ein Cyfarwyddwr Cynllunio, Datgarboneiddio ac Ymgysylltu – yn ganolog i’r modd yr ydym yn gwireddu ein gweledigaeth. Bydd y rôl â ffocws clir ar bobl ac ar leoedd, gan sicrhau bod cymunedau lleol yn mwynhau safon byw priodol ac yn cymryd rhan frwd yng ngwaith yr Awdurdod, yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ar draws Sir Benfro a Chymru, a dramor hefyd drwy ein cysylltiadau rhyngwladol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus lunio, a chyfrannu at, bolisïau a rhaglenni corfforaethol yr Awdurdod ac o fewn cyd-destun Cymreig ehangach. Yn hollbwysig, byddwch yn arwain ar gyflawni swyddogaeth gynllunio statudol yr Awdurdod yn ogystal â chyfrannu at yr agenda Newid Hinsawdd, ymgysylltu â chymunedau lleol, defnyddio’r Parc Cenedlaethol fel cyfrwng i wella iechyd a llesiant, a sicrhau bod pobl o bob cefndir yn gallu mwynhau'r Parc Cenedlaethol. Bydd disgwyl i chi deithio, a bod yn eiriolwr dros ein gweledigaeth, a gwella ein delwedd a’r canfyddiad ohonom drwy eich gwaith, a’ch presenoldeb.

I fod yn llwyddiannus, bydd angen i chi ddangos llwyddiant blaenorol, a chymhwyster perthnasol, fel arweinydd mewn cyflawni swyddogaethau cynllunio a swyddogaethau sy'n ymwneud â lle megis cynllunio, datblygu economaidd, awdurdod lleol, rheoli tir neu atyniadau ymwelwyr neu dwristiaeth. Yr hyn sydd yr un mor bwysig â'ch cefndir yw'r hyn fydd gennych i’w gynnig. Bydd angen i chi fod yn arweinydd ysbrydoledig sy'n gallu gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth â chymunedau a rhanddeiliaid lleol. Yn wleidyddol graff, dylech hefyd allu llywio meysydd polisi cymhleth ac yn credu’n gryf yng ngwerth democratiaeth ac atebolrwydd lleol. Byddwch yn rhannu ein

hangerdd a’n hymrwymiad i gyflawni er lles ein cymunedau a gwarchod cenedlaethau’r dyfodol, ac yn dangos llwyddiant o fod yn arweinydd strategol galluog mewn sefydliad amlweddog.

Os ydych am helpu i lunio un o adnoddau naturiol allweddol ein gwlad am ddegawdau yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

I gael gwybod mwy, cysylltwch â’n hymgynghorwyr recriwtio yn GatenbySanderson:

Myers, Prif Ymgynghorydd

E: julie.myers@gatenbysanderson.com

T: +44 (0) 7595 779915

Olivia Robinson, Uwch Ymchwilydd

E: olivia.robinson@gatenbysanderson.com

T: +44 (0) 7964 826 291

I wneud cais ac am fwy o wybodaeth, cliciwch https://www.gatenbysanderson.com/job/GSe87285/Director-of-Placemaking-Decarbonisation-and-Engagement-/

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Llun 18 Gorffennaf am 17:00awr.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

 

 

 

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert